Tafod Tafwys

Papur Dysgwyr Llundain

Rhifyn 6
Gwanwyn/Haf
1997

Cynnwys

Pan ddaw yr Haf...

Mae'n flin 'da fi bod amser hir wedi bod ers i chi gael Tafod Tafwys newydd ar y We. Rhywsut, mae'r flwyddin 'ma wedi bod yn un brysur iawn, iawn! Ond diolch i Theo a baratodd y testun mewn ffurf HTML, dyma un (eithaf) newydd i chi.

Roeddwn i'n falch o glywed bod pobl yng Nghaliffornia sy'n ei ddarllen. Rwy'n eich edmygu chi yn fawr iawn. Mae'n ddigon anodd dysgu'r Gymraeg yn Llundain, heb son am ochr arall y byd!

Gobeithio bod chi'n mwynhau'r Tafod 'ma. Ac os ydy rhywun eisiau sgrifennu erthygl, byddwn yn falch dros ben o'i derbyn.

Lynne





Yn Nhrefn yr Wyddfa...

(geirfa)

Diwrnod Celtaidd Cynta'r City Lit

Da oedd gweld cymaint o ddiddordeb yn y byd Celtaidd yn Llundain y 24edd o Fai. Roedd yr ystafell yn llawn, gyda tua 50 o bobl wedi dod i gael blas ar ddiwylliant (neu ddiwylliannau) ac ieithoedd Celtaidd. Gareth King a gyflwynodd yr elfennau iaith a ieithyddiaeth a Ken Rees y rhannau diwylliannol. Diddorol iawn oedd clywed ychydig am ddatblygu'r ieithoedd Indo-Iwropeaidd a Cheltaidd, er i ambell theori swnio braidd yn amheus, ac wedyn, cawson ni ddarlith hynod o ddiddorol am fythau Gwyddelig a Chymreig gan Ken Rees. Roedd cyfle i bawb ddysgu ychydig bach o Gymraeg ac o Aeleg yr Alban yn ystod y diwrnod. Sylweddolais i gymaint haws yw y Gymraeg - i'w darllen ac i'w ynganu! Gresyn na chafodd pobl y dosbarth Cernyweg gyfle i gymryd rhan, ond roedden nhw wedi paratoi taflen llawn gwybodaeth a dod i'w ddosbarthu amser coffi yn y bore! Cefais fy siomi gan y sleidiau am gelfyddyd Geltaidd, i fod yn onest, ond efallai fod hynny yn dweud mwy am fy niddordebau i nag am y sleidiau. Hoffwn i hefyd glywed mwy am y Lydaweg a'r Wyddeleg, ond er gwaetha' hynny, roedd y diwrnod yn llwyddiannus iawn, ac yn werth ei ailgyflawnu yn y dyfodol.

Mae dosbarthiadau Cymraeg, Gaeleg a Chernyweg yn y City Lit, a grwp newydd Llydaweg yng Nganolfan Cymry Llundain (gweler isod). Mae gwersi Gwyddeleg ar gael yn Llundain hefyd - mae'n debyg y bydd manylion yn Floodlight.

Lynne



LUNED

Stori fer

Bob nos Iau, am chwech o'r gloch yn brydlon, deuai cnoc ar ddrws y cefn. Byddai fy mrawd a finnau'n rhedeg am y cyntaf i agor y drws a chyfarch y wraig fach dew a safai ar y trothwy. Roedd Luned wedi dod i rannu clecs y pentref gyda Mamgu.

Merch ffermiwr oedd Luned, o deulu a oedd wedi symud o ardal Caerfyrddin, hen ferch ddi-briod a oedd yn byw gyda'i chwaer, a oedd yn weddw, mewn ty mawr wrth y groesffordd.

Deuai i mewn a setlo ei hunain yn gysurus ar y setî gyferbyn â chadair Mamgu ar ôl rhoi hen gôt brown a het di-siâp yr un lliw ar y gadair wrth ochr y weierles. Byddai Mamgu yn arllwys y te, ac yna dechreuon nhw drafod trigolion y pentref, beth roeddwn wedi ei wneud yn ystod yr wythnos a phwy oedd wedi dweud beth wrth bwy. Ar ôl hynny, dechreuai fel arfer ar hanes un o deuluoedd y pentref. Roedd wastad gan Mamgu lu o storïau, ac roedd Luned yn wrandawraig ddelfrydol, yn hongian ar bob gair ac yn ei hannog i gario ymlaen gan ebychu, "Cerwch!" bob tro wrth iddi aros, â'i llygaid yn fawr ac yn grwn.

Er i'r teulu symud i Forgannwg rhyw hanner can mlynedd yn ôl, Cardi go-iawn oedd Luned. Roedd Mamgu yn eithaf carcus gyda'i harian, ond wrth ochr Luned roedd hi'n afradlon dros ben. Roedden nhw'n arfer mynd ar wibdeithiau'r Pensiynwyr, ond gwrthododd Luned brynu cymaint â hufen ia os nad oedd hi'n ddiwrnod anarferol o boeth. Efallai byddai hi'n mentro ceiniog yn y "Penny Falls" ar lan y môr, neu brynu tocyn raffl unwaith y flwyddyn, ond os nad enillodd hi, phrynai hi ddim ail. Chawson ni blant erioed losin ganddi hi, fel gan ymwelwyr eraill, ond doedden ni ddim yn meindio. Roedd wastad gwên ar ei hwyneb inni, a threuliais i oriau yn y gornel ger y tân yn clywed hi a Mamgu rhoi'r byd yn ei le.

Er nad oedd Luned yn fodlon gwario, roedd hi wedi bod yn cynilo, ac roedd cryn dipyn o arian ganddi hi erbyn hyn. Fel llawer o bobl o'i hoedran, doedd ganddi hi ddim cyfrif banc, ond roedd y cyfan wedi'i guddio y wardrôb. Roedd y ty yn mynd â'i ben iddo, a doeddech chi byth yn gwybod pan fyddai'n rhaid i chi dalu am rhywbeth i gael ei drwsio.

Bob bore Gwener, roedd Luned a'i chwaer yn arfer mynd i'r dref i siopa. Aethent gyda bws naw o'r gloch a dod 'nôl am hanner awr wedi un. Un diwrnod, wrth ddod allan o'r bws, gwelent fod rhywbeth wedi digwydd. Roedd ffenestr yr ystafell fyw wedi'i thorri a rhywun yn amlwg wedi mynd i mewn i'r ty^. Wedi rhuthro i mewn, aeth Luned yn syth i'r ystafell wely a'r wardrob. Roedd ei ddillad i gyd ar y llawr, ond roedd yr arian wedi mynd.

Ddaeth Luned byth dros y sioc. Aeth yn ddigalon, a dirywio'n gyflym. Ar ôl wythnos, daeth rhywun o hyd iddi yn y nant ar waelod yr ardd, yn ceisio boddi ei hunan. Aethent â hi i'r ysbyty, a ddaeth hi byth 'nôl. Ymhen y mis, bu hi farw.

Lynne





Llundain Gymreig

Dyma chwaneg o leoedd yn Llundain â chysylltiadau gyda Chymru.

Siopau, busnesion ac ati:

Ac mae un arall o ddidordeb arbennig : Buscot Dairy, Harrowby Street W1­ Bwyty/Caffi ­ Croeso Cymraeg i bawb!

Theo





Ysgol Geiriau

Cwblhewch yr ysgol, wrth newid UN llythyren ar y tro. Mae cliwiau i'ch helpu chi.


UWD

Rwybeth i 3 arth ei fwyta

....

Gollwng y gath o hynny

....

Dau gi bach?

....

Geiriau gyda cherddoriaeth

....

O ___ y ford (?ar ôl meddwi?)

....

Bydd yn dod

DUW

Tad Iesu



Dirgelwch y Mabinogion

Mae casgliad o chwedlau Celtaidd a elwir "Y Mabinogion" yn cael ei gydnabod fel clasur llenyddiaeth Gymraeg y Canol Oesoedd. Mae'r straeon yn ymdrin â anturiaeth, arwriaeth a serch, ac maen nhw'n llawn digwyddiadau anhygoel.

Ysgrifennwyd casgliad hynaf y straeon yn Llyfr Gwyn Rhydderch, tua 1300. Mae'r rheiny - a gadwyd bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, yn cynnwys pedair stori sydd yn perthyn i'w gilydd - sef pedair cainc y Mabinogion (y Mabinogion "go-iawn"). Can mlynedd yn ddiweddarach, ysgrifennwyd casgliad arall, y Llyfr Coch Hergest, sydd yn cynnwys y pedair cainc a oedd wedi ymddangos yn y Llyfr Gwyn, a saith stori eraill yn ogystal. Fe roddir erbyn hyn yr enw "Mabinogion" i'r holl gyfres o unarddeg o straeon.

Doedd y straeon eu hunain ddim yn rhai newydd pan ysgrifennwyd nhw gyntaf. Fe'u hestynnwyd i lawr gan feirdd dros y cenedlaethau, a'u ehangu a'u newid o hyd. Yr hyn sydd wedi bod yn ddirgelwch erioed yw enw'r person a ysgrifennodd y straeon gyntaf. Mae hyn yn drueni, achos bod gwerth llenyddol y gwaith wedi bod yn amlwg erioed.

Beth bynnag, mae ymchwiliwr academigaidd, Dr Breeze, o brifysgol yng Ngogledd Sbaen, wedi enwi yn ddiweddar y person mae'n credu yw awdur y bedair cainc. Mae ei ddamcaniaeth wedi synnu llawer, achos ei fod e'n awgrymu mai menyw yw'r awdur. Yn ei ôl e, y fenyw oedd y dywysoges Gwenllian, merch Brenyn Gwynedd Gruffydd ap Cynan. Daeth Gwenllian yn wraig i Gruffydd ap Rhys, Brenin Deheubarth yn ystod yr ail ganrif ar ddeg.

Mae'r ymchwiliwr yn esbonio ei ddamcaniaeth felly. Yn gyntaf, mae'n dweud bod steil ysgrifenyddol y pedair cainc yn ddangos arlliw fenywaidd, gyda llawer o gyfrindeb, yn arbennig o ran triniaeth geni a magu'r plant. Mae'n cyferbynu hyn â steil y saith stori eraill, sydd yn eithaf gwyllt a ffyrnig. Yn ail, mae'n dadlau bod rhaid i'r awdur fod yn berson o statws uchel yn y cymdeithas, am fod llawer o fanylion y straeon yn ymwneud â bywyd ac arferion y llys - ni fyddai un o'r werin yn gwybod am bethau felly.

Fe benderfynodd Dr Breeze mai Gwenllian oedd yr unig berson a allai basio'r dau brawf. Yn ôl ei ddamcaniaeth, byddai hi wedi ysgrifennu'r straeon i lawr tua 1130, a byddai'r Llyfr Gwyn, a ysgrifennwyd yn ddiweddarach, wedi'i seilio ar ei gwaith hi.

Fe laddwyd Gwenllian yn 1136, pan gollodd ei byddin frwydr yn erbyn y Normaniaid yn Nhe Gorllewin Cymru. Fe dorwyd pen Gwenllian a'i mab, Morgan, a chladdwyd nhw ar faes y frwydr, ger Castell Cidweli. Enwir y safle yn Faes Gwenllian.

Os nad ydych wedi darllen y Mabinogion, mae'n brofiad gwerthchweil - hyd yn oed yn Saesneg. Y cyfieithiad enwocaf yw'r un gan Gwyn Jones a Thomas Jones, wedi'i gyhoeddi gan Everyman.

John Davies, Lefel 3

[Mae'r Mabinogion mewn Cymraeg cyfoes hefyd - mae cyfrolarbennig o dda gan Dafydd a Rhiannon Ifans (Gomer). Neu os yw hynny'n rhy anodd, beth am drosiad ar gyfer plant? - Gol.]



Ble mae 'Steddfod y defaid eleni?
Y Baaa-la!

-

Beth ydych chi'n galw dysgwr gyda bom?

Terfddysgwr!






"Shwmae'r hen goes!
Be' sy ar droed?"



Rhestr E-bost Newydd ar gyfer Dysgwyr

Mae rhestr E-bost newydd ar gyfer pobol sy'n dechrau dysgu'r Gymraeg. CYMRAEG-L yw'r enw. I ymaelodi (join) anfonwch neges e-bost i:

listproc@lists.missouri.edu

yn dweud:

subscribe CYMRAEG­L [eich cyfeiriad e­bost] [eich enw]

Fe wela' i chi yno!



Holi Siân

Cyfweliad gyda Siân James

Un o ganwyr mwya' poblogaidd Cymru, mae Siân James wedi llwyddo hefyd i fod yn actores ac yn fam i ddau fachgen bach. Gofynnodd Lynne ambell i gwestiwn iddi.

Daeth albwm newydd allan erbyn y 'Dolig? Beth yw enw'r albwm, a pha fath o gerddoriaeth sy' arno?

Gweini Tymor ydi'r enw. Mae'n albwm o ganu gwerin - i gyd yn ganeuon traddodiadol. Ond mae'r trefniannau'n amrywio - o rai a capella trwodd at fand cyfan.

Ydych chi'n ystyried canu gwerin yn bwysig?

Mae'n bwysig i mi. Dechreuais i ganu yn dair oed - yn cystadlu yn eisteddfodau ac ati. Dechreuais i ddysgu canu'r delyn yn 11 oed hefyd gyda Franses Môn Jones, a hi ddysgodd lot fawr o'r caneuon gwerin i mi. Roeddwn i'n canu'r delyn mewn triawd gyda hi ac Ieuan Jones, sy' bellach yn delynor enwog dros y byd. Fuon ni'n cynnal cyngherddau o gwmpas cymdeithiasau Cymraeg yn Lloegr yn y chwedegau, a oedd yn brofiad penigamp. Canu gwerin oedd pob dim o'n i'n ei wneud. Ers hynny mae canu gwerin wedi tyfu yn rhywbeth mwy i mi - dwi'n cyfansoddi trefniannau - alawon gwahanol sy'n mynd gyda'r gan wreiddiol - ond y gan werin sy'n bwysig. Mae caneuon traddiodadol hefyd yn dylanwadu'r ffordd y byddaf yn cyfansoddi caneuon gwreiddiol.

Sut un bydd yr albwm nesa'?

Mae'n debyg y bydd yr albwm nesa' yn wahanol eto, yn fwy cyfoes, ac yn cynnwys stwff gwreiddiol i gyd. Mi fydd yn fiwsion gwahanol - fy alawon i, sy'n werinaidd eu naws, ynghyd syniadau cyfoes, rhythmau cyfoes. Gobeithio y bydd o allan erbyn yr Hydref.

Beth sy'n fwy pwysig i chi - actio neu ganu?

Mae hon yn gwestiwn sy'n cael ei ofyn i mi yn aml! Dwi'n mwynhau y ddau a dwi'n cael hi'n anodd dewis, gan bod y ddau beth yn bwysig iawn i mi. Man cychwyn fy nghariad at actio oedd cynhyrchiadau'r ysgol, ac operâu roc yr Urdd, ac ar ôl fy nghyfnod colegol mi fues i'n gwneud lot fawr o waith theatr, hyd at ryw dair blynedd 'nôl. Ond Pengelli oedd y peth cyntaf i mi ei wneud ar gyfer y teledu, ac roedd honno yn brofiad gwych! Dw i newydd orffen gwneud ffilm - Y Dylluan Wen - addasiad o lyfr Angharad Jones. Bydd hwnnw allan cyn diwedd y flwyddyn, gyda lwc!

Dywedodd Y Cymro yn ddiweddar bydd eich albwm nesa' wedi'i anelu at America. Ydy hynny'n wir?

Wel, dwn i'm am America yn benodol, ond 'swn i'n licio perfformio mwy tu allan i Gymru. 'Swn i'n licio byw ar y canu - a dydi hynny ddim yn rhy hawdd yng Nghymru gwaetha'r modd.

Mae 'na rai grwpiau Cymraeg sy'n troi at ganu yn y Saesneg i gael cynulleidfaoedd mwy. Beth yw eich barn chi am hynny? Byddech chi'n ei wneud?

Byddwn i ddim yn canu cyfieithiadau o ganeuon gwerin Cymraeg yn Saesneg - 'sa hynny mwya' rhyfedd!! Ond faswn i ddim yn gwrthod canu cân dda in yr iaith honno petai'r sefyllfa'n codi. Mae grwpiau megis Super Furries a Catatonia wedi bod yn cael rhywfaint o wasg drwg am ganu yn Saesneg, ond erbyn hyn mae'r agwedd yn newid. Dydw i ddim yn ei weld o yn nhermau cefnu ar Gymreictod, ond yn hytrach gwthio ffiniau Cymreictod yn bellach er mwyn rhoi cyfle i'r rhai llai goleuedig tu allan i Gymru ddeall mwy am ein gwlad ni. Mae ein cerddorion ifanc ni cymaint i'w gynnig - pob lwc iddyn nhw, dduda i.

Beth yw prif ysbrydoliaeth eich cerddoriaeth?

Fy mhlant!

Pa fath o gerddoriaeth ydych chi'n licio ei glywed eich hunan?

Rhywbeth sydd yn fy nhawelu - sydd yn fy nwyn i i ffwrdd o'r byd!. Rhywfaint o gerddoriaeth gynnar iawn, megis Tallis, cerddoriaeth nwydus fel Rachmaninoff, ac yn gyfoes, cerddoriaeth Alanis Morisette, a Sheryl Crow os ydw i angen bwst!! Hefyd dwi'n hoff iawn o jazz a blâs, yn enwedig Nina Simone, a brenin y blâs Cymraeg, Meic Stevens. Fel y gweli di, dydw i ddim yn gyson iawn yn fy newisiadau cerddorol!

Oes hoff gân gyda chi o'r rhain eich bod chi wedi eu cyfansoddi?

Wel, dwi'n eitha' hoff o Distaw - a hefyd Branwen a Blodeuwedd, ond mwy achos y geiriau.

Ac yn ola', pryd byddwch chi'n dod i ganu yn Llundain!?

Mae gennyf gyngerdd byr yn y Globe Theatre ar y 10fed o Awst dan WOMAD. Hoffwn ganu'n amlach yn Llundain. Beth am drefnu un?!!


Y Delynores

(Nid wrth gwrando ar Siân ysgrifennais y gerdd hon, ond mae'n dangos effaith hyfryd y delyn i dawelu'r ysbryd.)

Llifa cerddoriaeth telyn dirion fwyn
Fel dyfroedd tawel dros fy ysbryd brau,
Tawela f'enaid trwblus dan ei swyn,
Cysura'm meddwl dryslyd a iacháu.
Draw, draw o'r byd rhy brysur ac o'i fraw,
Draw, draw ymhell o'r poethder llethol llwm,
O wydd fy ngwrthwynebwyr sy'n ddi-daw,
O'r pwysau torcalonnus trist a thrwm.
Yma mae gobaith a thangnefedd glân,
Yma mae gorffwys a llonyddwch llwyr,
Mae cysur ac mae cariad yn y gân,
Mae'r awel iach yn codi gyda'r hwyr.
Ar ôl glyn cysgod angau am mor hir,
Gwelaf y porfeydd gwelltog, a gwell tir.

Bedwen

Croesair - Pobl Enwog ... (Neu Ddrwgenwog)

AR DRAWS

1. Afiechyd i'w wella dan nwy (6)
6. Gwlad tadau Adolf Hitler? Nage, nid Awstria.(2,6)
8. Eginol, wedi'i drysu, ond yn fywiog.(6)
9. Ardal cartref R S Thomas (tan farwolaeth ei wraig).(3)
10. Taro rhywbeth ar bapur a swnio fel cymeriad Enid Blyton.(4)
12. Ymateb i'r temtasiwn i sgrifennu ar arwyddion "Give Way". (5)
14. Adeilad ar gyfer cyfarfodydd neu addysg (yn rhannol).(5)
15. Bardd enwog a allai gyfansoddi awdl i'r dim.(5)
16. Rhaid i chi wneud hyn i fod yn 4 i lawr - ond nid gormod! (5)
18. Hanner crio, ar ôl i'r hanner symlen ddeall.(5)
20. Sgrifennwr llythyr yn y Beibl, ond dyn drwg yn Othello.(4)
22. Yn y ___, mae'n edrych yn dda yn Ffrainc.(3)
24. Guy Burgess, er enghraifft.(6)
25. Nid ffug!(8)
26. Does dim ____ o gliwiau ar draws (6)

I LAWR

1. Gwleidydd enwog o Gymru a fu'n gyfrifol am gychwyn y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol.(7,5)
2. Rhan o'r ystafell heb ddodrefn. (6)
3. Bardd enwog, canwr enwog a chwningen!(5)
4. Os wyt ti'n canu'n ___, rwyt ti'n mynd oddi yma! (3)
5. Lot o gylchgronau Cymreig - pob un yn gweld pethau'n wahanol (6)
7. Daeargryn, neu dornado, neu fethu arholiad, er enghraifft (8,4)
9. Enw merch neu aderyn (5)
11. Gyda chorneli. (5)
13. Arweinydd mawr a ddaeth o gas cleddyf! (5)
17. Gwynedd, neu Guy's, neu UC. (6)
19. Sawl punt sy' gan Andrew Lloyd Webber, neu Dywysoges Cymru neu enillwr jacpot y loteri (o leiaf)?(6)
21. O gwmpas (1,4)
23. Roedd un yn Aberdaron ac mae un ar Dalwrn y Beirdd. (Dyna derfyn wicid - gyda thro yn y gynffon!)(3)


DIOLCH...

...i bawb a gyfrannodd y tro 'ma, yn enwedig Theo, Barry a John, ac i Glenys a Dafydd am eu cymorth, a diolch arbennig i Siân James am ei hamser a'i hamynedd.