ITV 1 Wales (HTV Wales) Nodiadau - Ebrill 2004 Yng Nghymru a thu hwnt i Gymru, mae ITV 1 Wales (HTV) ar gael drwy wasanaeth loeren Astra 1D. Mae'r sianel wedi'i seiffro, felly rhaid i chi ddefnyddio bocs loeren digidol "Sky" ("digibox") gyda cherdyn "Sky" (neu gerdyn "Solus", ond dydy'r rheiny ddim ar gael bellach). Yn anfoddus, does dim ond un fersiwn o ITV sy'n ymddangos yn yr EPG, ar sianel 103, sef y fersiwn leol i ble bynnag yn y DU y mae eich cerdyn Sky neu Solus wedi'i gofrestru. Ond mae fersiynau eraill ar gael drwy "Other Channels". Er mwyn derbyn ITV 1 Wales drwy digibox: CAM 1 - ychwanegu'r sianel i "Other Channels" ============================================== Gyda lwc, bydd rhaid i chi wneud cam 1 'mond unwaith. Pwyswch ar "services", dewiswch "4 SYSTEM SETUP", wedyn "4 ADD CHANNELS". Dylai "FREQUENCY" ymddangos yn felyn. Teipiwch 10832 ar y teclyn rheolaeth o bell. Nesaf symud i lawr at "POLARISATION" gan ddefnyddio'r bwtwn saeth perthnasol, a dewiswch "H" (drwy'r bwtwn saeth ochrog (>) os oes rhaid) (sef, "Horizontal", yn hytrach na "V" ...) . Wedyn symud i lawr at "MBAUD" , a dewiswch "22". Wedyn symudwch at "FEC" (Forward Error Correction), a dewiswch "5/6". Wedyn symud at "FIND CHANNELS", a phwyswch "Select" Wedi oediad byr, bydd rhestr sianeli ITV (ac rhai eraill, efallai) yn ymddangos. (Os oes rhestr wag, rhaid i chi wedi methu rhywbeth....) Dewiswch "ITV 1 Wales" ("select", dylai fod tic gyferbyn) Pwyso "Backup" sawl gwaith... CAM 2 - defnyddio "other channels" ================================== Rhaid i chi wneud cam 2 bob tro i chi eisiau gwylio HTV Wales. Pwyswch ar "services", dewiswch "6 OTHER CHANNELS" Dyle fod rhestr sianeli - o leiaf un, sef ITV 1 Wales! Dewiswch y sianel berthnasol a "select". Llongyfarchiadau! (er mwyn dychwelyd a^'r sianeli eraill, pwyswch ar "+ -", neu "backup".) ========================== Ffynhonnau gwybodaeth: http://www.ses-astra.com/ - nhw piau lloeren astra http://www.ses-astra.com/tv-radio/guide/lineup/markets/UK_digitaltv.htm http://www.ses-astra.com/tv-radio/guide/lineup/markets/UK_digitalradio.htm http://www.satcure.co.uk/reviews/ - siop dechnegol, gwybodaeth ddefnyddiol http://www.astra2d.co.uk/ - wefan anibynnol http://www.htvwales.com/ Rhagfyr 2003 Ebrill 2004