- Anoeth -




Digwyddiadur Llundain

Tafod Tafwys (rhifyn 6)




Y Betev aegulich y glav.
gvir ny ortywnaffint vy dignav .
kerwid. a chivrid a chav.

Y Betev a tut gvitwal.
ny lleffeint heb ymital.
guryen. morien. a morial.

Y Betev ae gvlich kauad.
gvyr. ny lleffeint in lledrad.
gwen. a gurien. a guriad.

Bet tedei tad awen.
yg godir brin aren.
ynydvna ton tolo.
Bet dilan llan bevno.

Bet keri cletif hir.
ygodir hen egluis.
yny diffuis graeande.
tarv torment .
ymynwent corbre

Bet feithennin finhuir vann
y rug kaerkenedir a glann .
mor mauridic a kinran.

Yn aber gwenoli.
y mae bet pryderi.
ynyterev tonnev tir.
yg karrauc.
bet gwallauc hir.

Bet gwalchmei ympyton.
ir diliv.y dyneton.
in llan padarn bet kinon.

Bet gur gwaud urtin
in uchel tytin.
inifel gweletin.
bet Kynon mab clytno idin.

Gwydi gurum a choch achein.
a. goruytaur maur minrein.
in llan helet bet. owein.
Gwydi gweli agwaedlan.
agvifcav feirch ameirch cann.
Neud ew hun bet kintilan.

Ys cul y bet ac ys hir.
in llurv llyauf am hir
bet meigen ab run ruyw gwir

Bet y march.
bet y guythur.
bet y gugaun cletyfrut.
Anoeth bid bet y arthur.